187.Mae'n diwygio Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau statudol cynhwysfawr ar bob agwedd ar bwerau a dyletswyddau o dan y Mesur hwnnw.
188.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn i gyfuno dau neu dri awdurdod lleol (a dim mwy na hynny) i greu un ardal llywodraeth leol newydd.
189.Cyn gwneud gorchymyn cyfuno, rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni nad yw'n debyg y câi llywodraeth leol effeithiol ei sicrhau mewn o leiaf un o'r ardaloedd llywodraeth leol sydd i'w chyfuno.
190.Wrth ddod i'w casgliad bod cyfuno'n angenrheidiol, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a ellid sicrhau llywodraeth leol effeithiol yn yr awdurdodau lleol o dan sylw drwy arfer y pwerau sydd eisoes wedi eu rhoi i'r awdurdodau hynny ac i Weinidogion Cymru o dan ddarpariaethau penodedig ym Mesur 2009.
191.Rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni felly bod arfer y pwerau canlynol yn annhebyg o sicrhau llywodraeth leol effeithiol:
Adran 9 o Fesur 2009 (pwerau cydlafurio). Mae'r adran hon yn rhoi i awdurdodau gwella Cymreig (sy'n cynnwys awdurdodau lleol) bwerau i'w galluogi i gydlafurio â'i gilydd ac â chyrff eraill, er mwyn cyflawni’r dyletswyddau o dan adran 2(1) o Fesur 2009 (dyletswydd gyffredinol i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer ei swyddogaethau) neu hwyluso’r modd y maent yn cael eu cyflawni. Mae adran 3(2) o Fesur 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig osod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, amcanion gwella iddo'i hun. Amcanion yw'r rhain ar gyfer gwella'r modd y mae swyddogaethau penodol yr awdurdod yn cael eu harfer ac mae adran 8(7) o Fesur 2009 yn pennu bod rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i arfer ei swyddogaethau fel bod unrhyw safonau perfformiad yn cael eu bodloni.
Adran 28 o Fesur 2009 (cymorth i awdurdodau gwella Cymreig). Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn credu y byddai'n debygol o gynorthwyo awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Fesur 2009 (Gwella Llywodraeth Leol). Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru ystyried cynnig cymorth o'r fath os gofynnir iddynt wneud hynny; ac (oni ofynnir iddynt) ymgynghori â'r awdurdodau lleol perthnasol ac eraill cyn rhoi cymorth. Nid yw'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi na chyfarwyddo awdurdod lleol neu unrhyw gorff arall i wneud unrhyw beth.
Adran 29 o Fesur 2009 (pwerau cyfarwyddo). Mae'r adran hon yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru ymyrryd yn achos awdurdod lleol sy'n methu, neu sydd mewn perygl o fethu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau yn Rhan 1 o Fesur 2009 (yn y bôn, dyletswyddau i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant) a chyfarwyddo'r awdurdod hwnnw.
Adran 30 o Fesur 2009 (pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio). Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod gwella Cymreig nad yw efallai yn methu ei hun (nac mewn perygl o fethu) i gydlafurio ag un sy'n methu.
Adran 31 o Fesur 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd). Mae'r adran hon yn darparu pŵer (drwy orchymyn) i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth i addasu neu eithrio cymhwysiad deddfiadau sy'n gymwys i awdurdodau gwella Cymreig, ac i roi pwerau newydd i'r awdurdodau hynny. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud hynny ond os ydynt wedi eu bodloni bod deddfiad o'r fath yn atal neu'n rhwystro awdurdod gwella Cymreig rhag cydymffurfio â darpariaethau Rhan 1 o Fesur 2009, neu y byddai rhoi pŵer newydd yn hwyluso'r cydymffurfio hwnnw.
192.Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ddangos eu bod wedi eu bodloni bod arfer y pwerau uchod yn annhebyg o sicrhau llywodraeth leol effeithiol, ac y byddai cyfuno yn debyg o wneud hynny. Felly, ar ôl cael eu bodloni'n gyntaf nad yw llywodraeth leol effeithiol yn debyg o gael ei sicrhau drwy arfer pwerau o dan Ddeddf 2009, dim ond bryd hynny y caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni ei fod yn angenrheidiol i sicrhau llywodraeth leol, wneud gorchymyn cyfuno.
193.Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru esbonio cynnig am gyfuno yn y ddogfennaeth sy'n ofynnol o dan adran 169 (gweler isod); bydd yn rhaid i'r esboniad ddangos sut y mae Gweinidogion Cymru wedi dod i'w casgliad.
194.Mae adran 162 yn ei gwneud ofynnol hefyd i orchymyn cyfuno ymdrin ag amryw o faterion sy'n sylfaenol i'r broses o gyfuno a chreu awdurdod newydd, gan gynnwys diddymu'r ardaloedd presennol, creu'r ardal newydd, ei enwi, ei ddynodi'n sir neu'n fwrdeistref sirol, sefydlu'r awdurdod lleol newydd yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol a dirwyn i ben a diddymu cynghorau'r ardaloedd presennol.
195.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru, pan fônt yn gwneud gorchymyn cyfuno, i wneud darpariaeth yn y gorchymyn hwnnw i ethol cyngor yr awdurdod lleol newydd. Byddai'r ddarpariaeth yn cynnwys pŵer i ganslo unrhyw etholiadau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer yr awdurdodau sydd i'w diddymu.
196.Os oedd yn rhaid i etholiad yr awdurdod newydd ddigwydd ar ddiwrnod ac eithrio'r un sydd wedi ei amserlennu ar gyfer etholiadau arferol llywodraeth leol a bod etholiadau cynghorau cymuned wedi eu hamserlennu hefyd ar gyfer y diwrnod hwnnw yn yr ardaloedd o dan sylw, byddai Gweinidogion Cymru yn gallu canslo'r etholiadau cynghorau cymuned a gorchymyn iddynt gael eu cynnal ar ddiwrnod arall (er enghraifft i gyd-fynd â'r etholiadau cyntaf i'r awdurdod newydd).
197.Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfnod “cysgodol” a sefydlu awdurdod cysgodol a gweithrediaeth gysgodol i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer yr awdurdod newydd cyn iddo ddod i fodolaeth yn ffurfiol.
198.Mae'n gofyn bod Weinidogion Cymru, pan fônt yn gwneud gorchymyn cyfuno, yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cysgodol ar gyfer yr ardal llywodraeth leol newydd gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod newydd (pan ddaw i fodolaeth yn ffurfiol) weithredu ffurf maer etholedig a chabinet ar drefniadau gweithrediaeth. Dim ond pan fo un o leiaf o'r awdurdodau sydd i'w cyfuno eisoes yn gweithredu drwy weithrediaeth maer etholedig a chabinet y bydd y gofyniad i gynnal refferendwm o'r fath yn gymwys.
199.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fyddai'n caniatáu iddynt gyfarwyddo awdurdod cysgodol ardal llywodraeth leol newydd i gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu'r ffurf maer etholedig a chabinet ar drefniadau gweithrediaeth.
200.Yr amgylchiadau lle y gellid galw'r pŵer hwn i rym yw rhai lle y byddai preswylwyr un o'r awdurdodau lleol a oedd i'w cyfuno wedi pleidleisio mewn refferendwm o blaid cael maer etholedig, ond bod etholiad y maer heb gael ei gynnal eto. Bydd y pŵer yn galluogi Gweinidogion Cymru i estyn y weithdrefn ar gyfer cyflwyno maer etholedig dros y cyfan o ardal llywodraeth leol newydd.
201.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed mewn cysylltiad â gorchymyn cyfuno.
202.Bydd yr adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn gorchymyn cyfuno i fynd i'r afael â materion allweddol eraill megis trosglwyddiadau staff, eiddo, rhwymedigaethau a hawliau ac unrhyw fater arall sy'n deillio o'r cyfuno. Gall fod yn anymarferol ceisio dal yr holl fanylion hyn yn y gorchymyn cyfuno, ac felly mae'r adran hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ymdrin â darpariaeth o'r fath.
203.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo Comisiwn Cymru i ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd.
204.Mae'r darpariaethau sy'n cael eu cyflwyno gan adran 163 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu'r trefniadau etholiadol cychwynnol ar gyfer awdurdod newydd yn y gorchymyn cyfuno.
205.Ran amlaf byddai'r gorchymyn cyfuno'n cael ei wneud mewn digon o amser cyn y dyddiad a amserlenwyd ar gyfer yr etholiadau cyntaf i'r trefniadau etholiadol fod wedi eu hadolygu gan Gomisiwn Cymru. Gall adolygiad gymryd rhwng 12 a 18 mis, ac felly os bydd gorchymyn cyfuno'n cael ei wneud yn agos at y dyddiad a amserlenwyd ar gyfer etholiadau, efallai na fydd amser i'r Comisiwn gwblhau ei adolygiad cyn yr etholiadau cyntaf.
206.Yn yr amgylchiadau hyn, mae adran 163 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu'r trefniadau etholiadol sydd i'w defnyddio ar gyfer yr etholiadau cyntaf. Byddai'r Gweinidogion yn ceisio dod o hyd i farn ddeallus wrth wneud hynny; byddai'r trefniadau yn destun adolygiad wedyn gan Gomisiwn Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr etholiadau cyntaf. Dyma beth a ddigwyddodd yn achos yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau newydd a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.
207.Mae'n diwygio darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy'n llywodraethu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Gomisiwn Cymru wrth iddo ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau etholiadol. Bydd hynny'n sicrhau bod y gweithdrefnau arferol yn cael eu dilyn os bydd y Comisiwn yn ymgymryd ag adolygiad o ardal llywodraeth leol newydd o dan gyfarwyddyd gan Gweinidogion Cymru yn sgil gorchymyn cyfuno.
208.Mae is-adran (5) hefyd yn diwygio adran 68(1) o Ddeddf 1972 fel bod darpariaethau adran 68 (sy'n ymwneud â chytundebau trosiannol mewn cysylltiad ag eiddo a chyllid mewn perthynas â'r cyrff cyhoeddus hynny y mae newid, diddymu neu gyfansoddi unrhyw ardal drwy orchymyn o dan Ran IV o Ddeddf 1972 yn effeithio arnynt) hefyd yn gymwys os bydd gorchymyn cyfuno.
209.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i orchymyn cyfuno fod yn ddarostyngedig i weithdrefn benderfynu uwchgadarnhaol y Cynulliad. Mae'r adran yn nodi pob cam yn y weithdrefn.
210.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cynnig cyfuno dau neu dri awdurdod lleol, rhaid iddynt ymgynghori ynglŷn â’u cynigion. Rhaid i’r ymgyngoreion gynnwys: y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardaloedd sydd i’w cyfuno; y cynghorau cymuned a’r cynghorau tref yn yr ardaloedd o dan sylw; ac unrhyw bersonau eraill y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arnynt.
211.Ar ôl yr ymgynghoriad, os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron y Cynulliad ddogfen sy'n rhoi esboniad am y cynigion, yn rhoi manylion yr ymgynghoriad ac yn cyflwyno gorchymyn drafft sy'n rhoi effaith i'r cynigion.
212.Rhaid i'r ddogfen fod wedi ei gosod gerbron y Cynulliad am ddim llai na 60 o ddiwrnodau – ac yn ystod yr amser hwnnw caiff unrhyw un sydd â buddiant yn y cynigion gyflwyno sylwadau a chaiff pwyllgorau Cynulliad achub ar y cyfle i alw'r cynigion i mewn i gael eu hystyried.
213.Caniateir i'r gorchymyn drafft terfynol gael ei osod wedyn gerbron y Cynulliad, ynghyd â datganiad sy'n nodi pa sylwadau sydd wedi dod i law ers i'r gorchymyn drafft cyntaf gael ei osod a pha newidiadau, os o gwbl, sydd wedi eu gwneud yn y gorchymyn drafft terfynol.
214.Rhaid i'r gorchymyn drafft terfynol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad, drwy fwyafrif syml o'r ACau hynny sy'n pleidleisio.
215.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gywiro, drwy orchymyn, wall sydd wedi ei wneud mewn gorchymyn cyfuno.
216.Mae'n darparu diffiniadau o'r derminoleg benodol sy'n cael ei defnyddio yn yr adrannau newydd.