Adran 145 – Adroddiadau blynyddolAdran 146 – Adroddiad blynyddol cyntafAdran 147 – Adroddiadau blynyddol dilynolAdran 148 – Ymgynghori ar adroddiadau drafft
168.Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r PAGA gyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer ei swyddogaethau am bob blwyddyn ariannol sydd ar ddod.
169.Mae adran 146 yn pennu: mai'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r PAGA gyhoeddi adroddiad blynyddol arni, yn pennu bod yn rhaid i'r adroddiad gael ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2011 ac yn pennu gofynion yr adroddiad. Mae'r darpariaethau hefyd yn caniatáu i'r PAGA lunio adroddiadau sy'n atodol i'r adroddiad blynyddol cyntaf. Mae gofynion adroddiadau blynyddol dilynol (ac adroddiadau atodol) yn debyg i'r rhai ar gyfer yr adroddiad blynyddol cyntaf (ac unrhyw adroddiadau sy'n atodol i'r adroddiad cyntaf)(adran 147).
170.Rhaid i'r PAGA ganiatáu cyfnod o wyth wythnos o leiaf ar gyfer ymgynghori ynghylch adroddiad drafft a dodi copi o'r adroddiad drafft ar ei wefan yr un pryd ag y caiff ei ddosbarthu i Weinidogion Cymru etc.
