7.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor yng Nghymru gynnal arolwg o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr mewn etholiadau cyffredin ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned yng Nghymru (a gynhelir fel rheol ar yr un pryd bob pedair blynedd), a hefyd o'r personau hynny y llwyddwyd i'w hethol yn gynghorwyr yn yr etholiadau hynny.
8.Mae'r arolwg wedi ei fwriadu i gwmpasu amryw o faterion ac i helpu i roi gwybod i wneuthurwyr polisi am lwyddiant neu fethiant mentrau i hyrwyddo ystod ehangach o bersonau i ymgeisio mewn etholiadau ar gyfer cynghorau. Rhagnodir cwestiynau'r arolwg, ffurflen yr arolwg a modd crynhoi’r wybodaeth mewn rheoliadau sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru.
9.Rhaid i'r awdurdod lleol sy'n ymgymryd â'r arolwg sicrhau bod cynghorwyr ac ymgeiswyr yn gallu darparu'r wybodaeth yn ddienw; nid yw cynghorwyr ac ymgeiswyr o dan unrhyw orfodaeth i ymateb i'r arolwg.
10.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gwblhau'r arolwg a darparu'r wybodaeth sydd wedi ei chrynhoi ganddynt i Weinidogion Cymru cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr etholiadau y mae'r arolwg yn ymwneud â hwy. Caiff yr awdurdodau lleol gyhoeddi'r wybodaeth y maent wedi ei chrynhoi.
11.Rhaid i Weinidogion Cymru grynhoi'r wybodaeth a geir a'i chyhoeddi cyn pen deuddeng mis ar ôl dyddiad yr etholiadau y mae'r arolwg yn ymwneud â hwy. Caiff Gweinidogion Cymru rannu'r wybodaeth fel y'i ceir oddi wrth yr awdurdodau lleol (h.y. cyn unrhyw grynhoi pellach gan Weinidogion Cymru) ag unrhyw gorff sy'n cynrychioli llywodraeth leol yng Nghymru.
12.Wrth gyhoeddi neu rannu unrhyw wybodaeth o'r arolwg, rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdod lleol sicrhau na chaiff unrhyw un a gyfrannodd at yr arolwg ei enwi a sicrhau na fyddai modd ei adnabod mewn unrhyw ffordd.
13.Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau am arolygon ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau hynny.
14.Effaith yr adran hon yw ehangu cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys cyfeiriad sydd wedi ei gynnwys yn y Mesur ac mewn is-ddeddfwriaeth) at gyfarfod o awdurdod lleol i gynnwys aelodau o awdurdod lleol sy'n ei fynychu o bell cyhyd ag y caiff pob un o'r amodau, a nodir yn is-adran (3), ei fodloni.
15.Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol sicrhau, i bob pwrpas, fod nifer yr aelodau sy'n mynychu'r cyfarfod mewn gwirionedd (h.y. sy'n mynychu'r cyfarfod yn y man lle y mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal) yn fwy na nifer y rhai sy'n ei fynychu o bell. Yn ychwanegol, caiff yr awdurdod lleol wneud rheolau sefydlog eraill ynghylch mynychu o bell.
16.Diben y newid yw cyflwyno mwy o hyblygrwydd ar gyfer trefniadau cyfarfodydd er mwyn darparu ar gyfer anghenion cynghorwyr o gefndiroedd mwy amrywiol.
17.Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ynglŷn â mynychu o bell.
18.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol gan ei aelodau a chan aelodau o'i weithrediaeth ar eu gweithgareddau yn unol â'r naill rôl neu'r llall neu'r ddwy yn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.
19.Caiff y trefniadau a wneir gan yr awdurdod gynnwys amodau ynghylch cynnwys adroddiad y mae'n rhaid eu bodloni gan y person sy'n ei lunio a rhaid i'r awdurdod roi cyhoeddusrwydd i'r trefniadau hynny. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau y caiff Gweinidogion eu dyroddi am adroddiadau blynyddol.
20.Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch amseru cyfarfodydd awdurdod lleol (gan gynnwys cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor) gyda golwg ar gyflwyno trefniadau mwy hyblyg i ddarparu ar gyfer cynghorwyr o gefndiroedd mwy amrywiol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau hynny.
21.Mae'n rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w haelodau. Rhaid i bob prif gyngor roi ar gael i'w aelodau adolygiad blynyddol o'u hanghenion hyfforddi a datblygu, gan gynnwys cyfle am gyfweliad gyda pherson y bernir ei fod yn briodol gymwys i gynghori ar y mater hwnnw. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ar y materion hyn.
22.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob prif gyngor ddynodi un o swyddogion yr awdurdod i fod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd (“PGD”), ond ni chaniateir i bennaeth ei wasanaeth cyflogedig, ei swyddog monitro na’i brif swyddog cyllid gael ei ddynodi yn y cyswllt hwn.
23.Caiff y PGD drefnu i'r swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a rhaid darparu i'r PGD y staff, y llety a’r adnoddau eraill sydd, ym marn y PGD, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau’r PGD gael eu cyflawni.
24.Diben y swydd yw sicrhau bod digon o gymorth yn cael ei roi i gynghorwyr y tu allan i'r weithrediaeth i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol, a hynny gyda'r ddarpariaeth angenrheidiol o ran gweinyddu ac ymchwilio.
25.Mae'n nodi'r swyddogaethau a ymddiriedir i Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd, gan gynnwys:–
rhoi cymorth a chyngor i'r awdurdod mewn perthynas â'i gyfarfodydd;
rhoi cymorth a chyngor i bwyllgorau (gan gynnwys cyd-bwyllgorau ac is-bwyllgorau, ond heb gynnwys y pwyllgor trosolwg a chraffu a'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd);
hybu rôl pwyllgor(au) trosolwg a chraffu'r awdurdod;
rhoi cymorth a chyngor i bwyllgor(au) trosolwg a chraffu'r awdurdod ac aelodau o'r pwyllgor hwnnw neu'r pwyllgorau hynny, ac yn yr un modd i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod;
rhoi cymorth a chyngor, mewn perthynas â swyddogaethau pwyllgor(au) trosolwg a chraffu'r awdurdod, i aelodau'r awdurdod, aelodau'r weithrediaeth a swyddogion yr awdurdod;
rhoi cymorth a chyngor i aelodau o'r awdurdod i gyflawni ei rôl fel aelod o'r awdurdod. Nid yw hyn yn ymestyn i roi cymorth a chyngor i aelod i gyflawni ei swyddogaeth fel aelod o'r weithrediaeth (ac eithrio ar gyfer y swyddogaethau hynny a gofnodwyd gan (e) uchod), a/neu gyngor ynghylch a ddylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer neu fod wedi eu harfer mewn perthynas â mater sy'n cael ei ystyried, neu sydd i'w ystyried, mewn cyfarfod o'r awdurdod neu bwyllgor o'r awdurdod (gan gynnwys cyd-bwyllgor neu is-bwyllgor); ac
gwneud adroddiadau a argymhellion ynghylch materion staffio sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd.
26.Caniateir i swyddogaethau eraill y PGD gael eu rhagnodi mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru; ac mae is-ddeddfwriaeth o'r fath i ddilyn y weithdrefn gadarnhaol. Nid yw “cyngor” yn (a) a (b) uchod yn cynnwys cyngor ynghylch sut y dylai swyddogaeth yr awdurdod gael, neu fod wedi cael, ei harfer. Nid oes dim yn yr adran hon sy'n effeithio ar ddyletswydd pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.
27.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgorffori mewn rheolau sefydlog ddarpariaethau rhagnodedig ynghylch rheoli staff a ddarperir i'r PGD ac addasiadau eraill i reolau sefydlog yr awdurdod sy’n ymwneud â rheoli staff. Ni fyddai modd i'r rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gwmpasu penodi, diswyddo staff na disgyblu'r staff y cyfeirir atynt.
28.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benodi pwyllgor o'r cyngor i ddynodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, arolygu gwaith y Gwasanaethau Democrataidd, sicrhau bod digon o adnoddau ar gyfer y gwaith a chyflwyno adroddiad i'r cyngor llawn yn unol â hynny.
29.Mae'n nodi'r aelodaeth o'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd. Mae aelodaeth o'r pwyllgor wedi ei chyfyngu i gynghorwyr (dim aelodau cyfetholedig), dim ond un aelod o weithrediaeth y cyngor a gaiff fod yn aelod, ac ni chaiff pennaeth gweithrediaeth y cyngor fod yn aelod o'r pwyllgor. Ni chaiff y cadeirydd fod yn aelod o’r grŵp gweithredol (ac eithrio mewn awdurdodau lle y mae pob grŵp gwleidyddol yn cael ei gynrychioli ar weithrediaeth yr awdurdod ac yn yr achos hwnnw ni chaiff y cadeirydd fod yn aelod o’r weithrediaeth). Rhaid i aelodaeth y pwyllgor adlewyrchu'r cydbwysedd gwleidyddol ar y cyngor llawn yn unol ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
30.Mae'n caniatáu i'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd sefydlu is-bwyllgorau, a gaiff gyflawni ei swyddogaethau.
31.Mae'n nodi darpariaethau sy'n llywodraethu trafodion pwyllgorau gwasanaethau democrataidd, gan gynnwys: y dylai'r cadeirydd gael ei benodi gan y cyngor llawn; bod rhaid i’r cadeirydd beidio â bod yn aelod o grŵp sy’n rhan o weithrediaeth y cyngor; ac eithrio pan fo pob grŵp wedi ei gynrychioli ar y weithrediaeth (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r cadeirydd beidio bod yn aelod o’r weithrediaeth); y dylai cadeiryddion unrhyw is-bwyllgorau gael eu penodi gan y pwyllgor gwasanaethau democrataidd; nad oes unrhyw gyfyngiadau ar bleidleisio ar gyfer aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgorau; y caiff y pwyllgor (ac is-bwyllgor) alw tystion ( a fydd o dan ddyletswydd i'w fynychu os ydynt yn aelodau'r awdurdod neu'n swyddogion i’r awdurdod, ond ni orfodir tyst o unrhyw ddisgrifiad i ateb unrhyw gwestiwn y byddai hawl ganddynt i wrthod ei ateb mewn achos llys, neu mewn cysylltiad ag achos o'r fath, yng Nghymru a Lloegr); ac y bydd cyfarfodydd, papurau a chofnodion y pwyllgor (a'r is-bwyllgor) hwnnw yn ddarostyngedig i'r gofynion ynghylch mynediad, cyhoeddi ac arolygu a nodir yn Rhan VA o Ddeddf 1972.
32.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr, ond caiff gyfarfod yn amlach na hynny. Yn ychwanegol, rhaid i'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu y dylai wneud hynny, neu fod traean o leiaf o'i aelodau yn galw am gyfarfod yn y modd a nodir.
33.Mae'n cyfyngu ar y swyddogaethau y caiff y pwyllgor gwasanaethau democrataidd eu harfer i'r rhai a nodir yn y bennod hon o'r mesur; rhaid i'r pwyllgor (ac unrhyw is-bwyllgorau) roi sylw i unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ar gyflawni swyddogaethau.
34.Bydd aelodaeth cynghorydd o bwyllgor (neu is-bwyllgor) gwasanaethau democrataidd yn peidio os bydd y cynghorydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r cyngor, ond ni effeithir arno os yw aelodaeth y cynghorydd o'r cyngor wedi peidio am fod tymor ei swydd fel cynghorydd wedi dirwyn i ben a'i fod yn cael ei ailethol yn yr etholiadau nesaf (mae hyn yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu'r pwyllgor/is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd).
35.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth y gwasanaethau democrataidd anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhellion a luniwyd ganddo am y materion staffio sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd at bob aelod o'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd. Rhaid cynnal cyfarfod o'r pwyllgor i ystyried adroddiadau neu argymhellion o'r fath cyn pen tri mis ar ôl iddynt gael eu hanfon at aelodau'r pwyllgor.
36.Os bydd pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn llunio unrhyw adroddiad neu'n gwneud argymhellion ynghylch darparu staff, llety ac adnoddau eraill sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod lleol ar gyfer cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, rhaid anfon copi at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Rhaid cynnal cyfarfod o'r cyngor llawn i ystyried yr adroddiadau neu'r argymhellion hynny cyn pen tri mis ar ôl iddynt gael eu hanfon at aelodau o'r awdurdod.
37.Mae'r adran hon yn sicrhau na chaiff yr awdurdod lleol ddirprwyo’r dyletswyddau a'r swyddogaethau a roddir iddo gan y Mesur hwn parthed: dynodi pennaeth y gwasanaethau democrataidd; darparu staff, llety ac adnoddau eraill iddo; penodi pwyllgor gwasanaethau democrataidd, ei aelodau (gan gydymffurfio â'r darpariaethau) a'i gadeirydd; penderfynu y dylai pwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod; ac ystyried adroddiad neu argymhellion a luniwyd gan y pwyllgor gwasanaethau democrataidd.
38.Mae'n diwygio adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i gynnwys pennaeth gwasanaethau democrataidd fel swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol. Effaith hyn yw atal deiliad y swydd rhag cael unrhyw rôl wleidyddol weithgar naill ai y tu mewn neu y tu allan i'r gweithle. Caiff cyflogeion o dan gyfyngiadau gwleidyddol eu hanghymhwyso’n awtomatig rhag ymgeisio am swydd etholedig neu ddal swydd o'r fath ac mae'n rhaid i'r cyfyngiadau hyn gael eu hymgorffori fel telerau yng nghontract cyflogi'r cyflogai o dan adran 3 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990.
39.Mae'n darparu bod cyfeiriad, yn y Rhan hon o’r Mesur, at aelod etholedig yn cynnwys aelod o weithrediaeth awdurdod lleol ond nid yw’n cynnwys maer etholedig.