6DehongliLL+C
(1)Yn y Mesur hwn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
“Deddf 1984 ” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984 (p.55),
ystyr “gwaith adeiladu” (“building work”) yw gwaith i godi, estyn neu addasu adeilad,
[F1“mae i “fflat” (“flat”) yr ystyr a roddir i “flat” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010(1)”]
[F1“mae i “tŷ annedd” (“dwelling-house”) yr ystyr a roddir i “dwelling-house” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010”]
“hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,
“hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,
ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Neddf 1984,
ystyr “preswylfa” (“residence”) yw—
(a)tŷ annedd,
(b)fflat,
(c)cartref gofal (pan fydd i “cartref gofal” (“care home”) yr un ystyr ag sydd iddo yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p.14))
(d)[F2neuadd breswyl;
(e)ystafell neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n dŷ annedd nac yn fflat ac sy’n cael ei defnyddio gan un neu fwy o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac sy’n cynnwys ystafell mewn hostel neu dŷ preswyl, ond nid yw’n cynnwys—
(i)ystafell mewn gwesty;
(ii)ystafell mewn hostel sy’n cael ei darparu fel llety dros dro i’r rhai hynny sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall;
(iii)ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall sy’n cael ei defnyddio fel llety i gleifion;
(iv)ystafelloedd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;
(v)mangre ar gyfer lletya personau sydd wedi eu remandio ar fechnïaeth;
(vi)mangre ar gyfer lletya personau y gall fod yn ofynnol iddynt, drwy orchymyn prawf breswylio yno, neu]
(f)[F3cartref plant, pan fo gan “cartref plant” yr ystyr a roddir i “children’s home” yn adran 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) ond nid yw’n cynnwys—
(i)sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y’i diffiniwyd gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);
(ii)sefydliad a ddefnyddir i letya plant at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn unig—
(aa)gwyliau;
(bb)gweithgaredd hamdden, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
ar yr amod nad oes dim un plentyn yn cael ei letya yno am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis;
(iii)sefydliad troseddwyr ifanc, a]
lle y mae adeilad yn cynnwys un breswylfa neu fwy, yn cynnwys unrhyw ran o'r adeilad hwnnw y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n byw yn y breswylfa honno neu'r preswylfeydd hynny at ddibenion atodol i'r feddiannaeth honno sy'n gyffredin â'i gilydd neu â defnyddwyr eraill yr adeilad,
ystyr “rhagnodwyd” (“prescribed”) yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru,
ystyr “rheoliadau adeiladu” (“building regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1984,
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, boed yn gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion o fath arbennig neu mewn mater penodol, ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”), mewn perthynas â phwrpas ac ag awdurdod lleol, yw swyddog a benodwyd at y diben hwnnw gan yr awdurdod hwnnw.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio diffiniad “preswylfa” yn is-adran (1) drwy—
(a)ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl, neu
(b)diwygio'r disgrifiad o ddosbarth o fangreoedd preswyl sydd eisoes yn bodoli.
(3)Yn is-adran (2), ystyr “mangreoedd preswyl” (“residential premises”) yw'r ystyr a roddir iddo yn—
(a)paragraff 7 o Ran 1 Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), unwaith y bydd mewn grym, neu,
(b)tan hynny, Mater 11.1 yn Rhan 1 Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 6(1) wedi eu mewnosod (30.4.2014) gan Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2723), erglau. 1(2), 2(2)
F2Geiriau yn a. 6(1) wedi eu hamnewid (30.4.2014) gan Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2723), erglau. 1(2), 2(3)(a)
F3Geiriau yn a. 6(1) wedi eu mewnosod (30.4.2014) gan Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2723), erglau. 1(2), 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(b)
