Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

Addasu gwaith tramgwyddus

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Os na fydd gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio, ar yr adeg a ragnodir yn adran 1(1), â gofynion adran 1(4), ac os yw'r diffyg cydymffurfio â'r gofynion hynny yn parhau, caiff awdurdod lleol drwy hysbysiad ofyn i'r perchennog wneud y cyfryw addasiadau a all fod eu hangen er mwyn i'r gwaith gydymffurfio â'r gofynion hynny, a hynny heb ragfarnu hawl yr awdurdod i ddwyn achos am ddirwy mewn perthynas â'r tramgwyddo.

(2)Os gwneir gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo—

(a)heb roi'r wybodaeth sydd ei hangen yn ôl adran 3(1), neu

(b)er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3), a'r hysbysiad hwnnw'n parhau i fod mewn grym,

caiff yr awdurdod drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodir yn yr hysbysiad, a'r rheini'n ofynion sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4).

(3)Os na fydd person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod yn cydymffurfio â'r hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy y mae llys ynadon yn ei ganiatáu ar apêl gan y person hwnnw o dan baragraff 5, caiff yr awdurdod lleol wneud unrhyw addasiadau i'r gwaith y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), a chaiff adennill gan y person hwnnw y costau y mae'r awdurdod wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud.

(4)Mewn perthynas â hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod (a elwir yn “hysbysiad paragraff 3”)—

(a)rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf a rhaid iddo gynnwys y cyfryw wybodaeth a all fod wedi'u rhagnodi,

(b)rhaid iddo ddatgan y caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo, o fewn yr amser a bennir gan baragraff 9, apelio yn erbyn yr hysbysiad i lys ynadon o dan baragraff 5, a

(c)ni chaniateir ei roi ar ôl i 12 mis fynd heibio oddi ar ddyddiad cwblhau'r gwaith dan sylw.

(5)Ni chaniateir rhoi hysbysiad paragraff 3 os rhoddwyd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan adran 3(1) i'r awdurdod ac os gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno, a hynny ar y sail nad oedd y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), oni bai bod yr awdurdod wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol.

(6)Nid yw'r paragraff hwn yn amharu ar hawl awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall i wneud cais am waharddeb i gael addasu unrhyw waith ar y sail nad yw'n cydymffurfio â gofynion adran 1(4), ond os—

(a)rhoddwyd gwybodaeth mewn perthynas â'r gwaith i'r awdurdod lleol yn unol ag adran 3(1),

(b)na roddodd yr awdurdod yr hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol, ac

(c)gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno,

bydd gan y llys, adeg caniatáu'r waharddeb, y pŵer i orchymyn bod yr awdurdod lleol yn talu perchennog y gwaith yr iawndal y mae'r llys yn barnu sy'n gyfiawn, ond, cyn gwneud y cyfryw orchymyn, rhaid i'r llys yn unol â rheolau'r llys drefnu bod yr awdurdod lleol yn un o bartïon yr achos, os nad ydyw eisoes.