I1I11Dyletswydd i ddarparu systemau llethu tân awtomatig

I101

Rhaid i waith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, mewn perthynas â phob preswylfa y mae'n gymwys iddi, gydymffurfio â gofynion is-adran (4) unwaith—

a

y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, neu

b

y bydd y breswylfa wedi'i meddiannu at ddibenion preswyl,

pa un bynnag sydd gynharaf.

I102

Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu yng Nghymru sy'n cynnwys—

a

adeiladu adeilad i fod yn un breswylfa neu fwy,

b

trosi adeilad, neu ran o adeilad, i fod yn un breswylfa neu fwy,

c

isrannu un breswylfa bresennol neu fwy er mwyn creu un breswylfa newydd neu fwy, neu

d

cyfuno preswylfeydd presennol er mwyn creu preswylfa newydd neu breswylfeydd newydd.

I103

Nid yw'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu—

a

sy'n cael ei gyflawni at ddibenion unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron, neu

b

os yw rheoliadau adeiladu sy'n gosod gofynion o ran darparu systemau llethu tân awtomatig yn gymwys i'r gwaith hwnnw neu os y byddai'n gymwys oni bai am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 sy'n hepgor gofynion o'r fath.

I1I114

Gofynion yr is-adran hon yw—

a

bod rhaid darparu system llethu tân awtomatig ym mhob preswylfa,

b

bod y system yn gweithio'n effeithiol, ac

c

bod y system yn cydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag a ragnodir.

I125

Mae'r cyfeiriadau yn is-adran (4) at system llethu tân awtomatig hefyd yn cynnwys unrhyw gyflenwad ynni, dŵr, neu sylwedd arall, sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio'n effeithiol.

I22Gorfodi

1

Ac eithrio fel y darperir gan is-adran (3), dyletswydd awdurdod lleol yw gorfodi darpariaethau'r Mesur hwn mewn perthynas â'i ardal.

2

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi gan awdurdodau lleol

3

Caiff is-adran (1) rym yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 (Gwaith adeiladu a oruchwylir gan rywun ac eithrio awdurdodau lleol).

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 9(3)

I33Darparu gwybodaeth

I31

Lle y bydd, yn unol â rheoliadau adeiladu—

a

hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o gynnig i wneud gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, neu

b

cynlluniau llawn o waith o'r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol,

rhaid i hysbysiad neu gynlluniau o'r fath gynnwys y cyfryw wybodaeth ag sy'n ofynnol o dan is-adran (2) neu rhaid i wybodaeth o'r fath fynd gydag ef, a rhaid cynnwys y cyfryw ffi a ragnodir.

I32

Yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr is-adran hon yw'r cyfryw wybodaeth, at ddibenion dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion adran 1(4), ac sydd, boed mewn perthynas â ffurf neu â chynnwys, wedi'i rhagnodi.

3

Os, ar ôl rhoi hysbysiad o'r fath neu adneuo cynlluniau o'r fath, nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol gan is-adran (2)—

a

yn gyflawn ym marn yr awdurdod lleol, neu

b

yn dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion is-adran 1(4) ym marn yr awdurdod lleol,

rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod perthnasol, roi hysbysiad yn ysgrifenedig o'r farn honno i'r person a roddodd yr hysbysiad hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y person a adneuodd y cynlluniau hynny, gan nodi'r rhesymau dros y farn honno.

4

Caiff person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-adran (3) ddiwygio'r wybodaeth y mae'r hysbysiad yn perthyn iddi a'i chyflwyno i'r awdurdod lleol, ac, yn yr achos hwnnw, ni fydd grym i'r hysbysiad a roddir o dan is-adran (3), ac, yn ddarostyngedig i is-adran (5), bydd is-adrannau (2) a (3) yn gymwys mewn perthynas â'r wybodaeth honno fel pe bai wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad neu'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) neu fel pe bai wedi mynd gyda hwy.

5

Os caiff gwybodaeth ddiwygiedig ei chyflwyno o dan is-adran (4), bydd y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato yn is-adran (3) yn mynd o'r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth.

6

At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw pum wythnos neu'r cyfryw gyfnod estynedig sy'n dod i derfyn heb fod yn hwyrach na deufis ar ôl—

a

rhoi'r hysbysiad neu adneuo'r cynlluniau, neu

b

pan fydd is-adran (4) yn gymwys, y dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth,

ag a gytunir yn ysgrifenedig cyn diwedd y pum wythnos ar y cyd â'r awdurdod lleol a'r person sy'n rhoi'r cyfryw hysbysiad neu'n adneuo'r cyfryw gynlluniau.

7

Mewn unrhyw achos pan fydd cwestiwn yn codi ynghylch cywirdeb barn awdurdod lleol y seiliwyd hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (3) arni, caiff y person y cafodd y cyfryw hysbysiad ei roi iddo gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru i'w benderfynu a chaiff Gweinidogion Cymru ddiddymu, addasu neu gadarnhau'r hysbysiad.

8

Rhaid i'r ffi a ragnodir fynd gydag unrhyw gyfeiriad at Weinidogion Cymru o dan is-adran (7).

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 3(1)(2) mewn grym ar 8.4.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 9(2)(a)

I44Dilysu a chyflwyno dogfennau

Mae darpariaethau'r adrannau canlynol o Ddeddf 1984 yn gymwys mewn perthynas â dogfennau yr awdurdodir neu y gorfodir eu rhoi, eu gwneud, eu dyroddi neu'u cyflwyno o dan y Mesur hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â'r rhai a roddir, a wneir, a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Ddeddf honno—

a

adran 93 (dilysu dogfennau),

b

adran 94 (cyflwyno dogfennau), ac

c

adran 94A (cyflwyno dogfennau'n electronig).

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 9(3)

I55Erlyn am dramgwyddau

Dim ond y canlynol sy'n cael cychwyn achos llys mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan y Mesur hwn neu oddi tano—

a

yr awdurdod lleol, neu

b

Gweinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 9(3)

I6I66Dehongli

1

Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

  • ystyr “y Cynulliad(“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

  • Deddf 1984(“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984 (p.55),

  • ystyr “gwaith adeiladu” (“building work”) yw gwaith i godi, estyn neu addasu adeilad,

  • F1“mae i “fflat” (“flat”) yr ystyr a roddir i “flat” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010(1)”

  • F1“mae i “tŷ annedd” (“dwelling-house”) yr ystyr a roddir i “dwelling-house” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010”

  • “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,

  • “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,

  • ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Neddf 1984,

  • ystyr “preswylfa” (“residence”) yw—

    1. a

      tŷ annedd,

    2. b

      fflat,

    3. c

      F3man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,

    4. d

      F2neuadd breswyl;

    5. e

      ystafell neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n dŷ annedd nac yn fflat ac sy’n cael ei defnyddio gan un neu fwy o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac sy’n cynnwys ystafell mewn hostel neu dŷ preswyl, ond nid yw’n cynnwys—

    6. i

      ystafell mewn gwesty;

    7. ii

      ystafell mewn hostel sy’n cael ei darparu fel llety dros dro i’r rhai hynny sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall;

    8. iii

      ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall sy’n cael ei defnyddio fel llety i gleifion;

    9. iv

      ystafelloedd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;

    10. v

      mangre ar gyfer lletya personau sydd wedi eu remandio ar fechnïaeth;

    11. vi

      mangre ar gyfer lletya personau y gall fod yn ofynnol iddynt, drwy orchymyn prawf breswylio yno, F4...

    1. (ea)

      F5mangre lle y mae gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu, neu;

    2. (f)

      F6man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, ond nid—

      1. (i)

        sefydliad yn y sector addysg bellach fel y’i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

      2. (ii)

        man lle y mae llety yn cael ei ddarparu at ddibenion—

        1. (aa)

          gwyliau;

        2. (bb)

          gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;

        oni bai bod plentyn yn cael ei letya yno am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis; a

    lle y mae adeilad yn cynnwys un breswylfa neu fwy, yn cynnwys unrhyw ran o'r adeilad hwnnw y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n byw yn y breswylfa honno neu'r preswylfeydd hynny at ddibenion atodol i'r feddiannaeth honno sy'n gyffredin â'i gilydd neu â defnyddwyr eraill yr adeilad,

  • ystyr “rhagnodwyd” (“prescribed”) yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru,

  • ystyr “rheoliadau adeiladu” (“building regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1984,

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, boed yn gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion o fath arbennig neu mewn mater penodol, ac

  • ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”), mewn perthynas â phwrpas ac ag awdurdod lleol, yw swyddog a benodwyd at y diben hwnnw gan yr awdurdod hwnnw.

F71A

Yn is-adran (1), ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.

2

Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio diffiniad “preswylfa” yn is-adran (1) drwy—

a

ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl, neu

b

diwygio'r disgrifiad o ddosbarth o fangreoedd preswyl sydd eisoes yn bodoli.

3

Yn is-adran (2), ystyr “mangreoedd preswyl” (“residential premises”) yw'r ystyr a roddir iddo yn—

a

paragraff 7 o Ran 1 Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), unwaith y bydd mewn grym, neu,

b

tan hynny, Mater 11.1 yn Rhan 1 Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.

I77Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

3

Yn yr adran hon, mae “deddfiad” yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, Mesur Cynulliad, Deddf Cynulliad neu Ddeddf Seneddol, ac is-ddeddfwriaeth, pa un a ddaethant i rym cyn neu ar ôl i'r adran hon ddod i rym.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 7 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(b)

I88Rheoliadau a gorchmynion

1

Mewn perthynas â rheoliadau neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—

a

rhaid eu gwneud drwy offeryn statudol,

b

caniateir gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dosbarthiadau gwahanol o achosion a dibenion gwahanol,

c

caniateir gwneud unrhyw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol, arbed, cysylltiedig neu atodol fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda,

d

caniateir eu gwneud, yn achos rheoliadau sy'n rhagnodi materion at ddibenion adrannau 1(4)(c), 3(1) neu 3(2), dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru gynnal y cyfryw ymgynghoriad ag y maent o'r farn ei fod yn briodol,

e

caniateir eu gwneud, yn achos—

i

gorchmynion a wneir o dan adran 6(2), a

ii

gorchmynion a wneir o dan adran 7(1) sy'n diwygio, yn diddymu neu'n addasu unrhyw Fesur Cynulliad, Deddf y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol,

dim ond os oes drafft o'r gorchymyn wedi'i osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad, ac

f

ac eithrio—

i

y rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), a

ii

y rheini a wneir o dan adran 9(3),

maent yn agored i gael eu diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.

Annotations:
Commencement Information
I8

A. 8 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(b)

I99Teitl byr a chychwyn

1

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.

2

Daw darpariaethau canlynol y Mesur hwn i rym ar y diwrnod ar ôl cael Cymeradwyaeth Frenhinol—

a

adrannau 1(4), 3(1) a 3(2), ond dim ond at ddiben galluogi materion i gael eu rhagnodi o dan adrannau 1(4)(c), 3(1) a 3(2), yn ôl y drefn honno,

b

adrannau 6, 7 a 8, ac

c

yr adran hon.

3

Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y cyfryw ddydd neu ddyddiau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.