- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Measure yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Rhaid i waith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, mewn perthynas â phob preswylfa y mae'n gymwys iddi, gydymffurfio â gofynion is-adran (4) unwaith—
(a)y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, neu
(b)y bydd y breswylfa wedi'i meddiannu at ddibenion preswyl,
pa un bynnag sydd gynharaf.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu yng Nghymru sy'n cynnwys—
(a)adeiladu adeilad i fod yn un breswylfa neu fwy,
(b)trosi adeilad, neu ran o adeilad, i fod yn un breswylfa neu fwy,
(c)isrannu un breswylfa bresennol neu fwy er mwyn creu un breswylfa newydd neu fwy, neu
(d)cyfuno preswylfeydd presennol er mwyn creu preswylfa newydd neu breswylfeydd newydd.
(3)Nid yw'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu—
(a)sy'n cael ei gyflawni at ddibenion unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron, neu
(b)os yw rheoliadau adeiladu sy'n gosod gofynion o ran darparu systemau llethu tân awtomatig yn gymwys i'r gwaith hwnnw neu os y byddai'n gymwys oni bai am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 sy'n hepgor gofynion o'r fath.
(4)Gofynion yr is-adran hon yw—
(a)bod rhaid darparu system llethu tân awtomatig ym mhob preswylfa,
(b)bod y system yn gweithio'n effeithiol, ac
(c)bod y system yn cydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag a ragnodir.
(5)Mae'r cyfeiriadau yn is-adran (4) at system llethu tân awtomatig hefyd yn cynnwys unrhyw gyflenwad ynni, dŵr, neu sylwedd arall, sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio'n effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1(4) mewn grym ar 8.4.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 9(2)(a)
I2A. 1(1)-(3) mewn grym ar 30.4.2014 at ddibenion penodedig ac 1.1.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2727, ergl. 2(1)(a)(2) (ynghyd ag ergl. 2(3))
I3A. 1(4) mewn grym ar 30.4.2014 at ddibenion penodedig ac 1.1.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2727, ergl. 2(1)(b)(2) (ynghyd ag ergl. 2(3))
I4A. 1(5) mewn grym ar 30.4.2014 at ddibenion penodedig ac 1.1.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2727, ergl. 2(1)(c)(2) (ynghyd ag ergl. 2(3))
Rhagolygol
(1)Ac eithrio fel y darperir gan is-adran (3), dyletswydd awdurdod lleol yw gorfodi darpariaethau'r Mesur hwn mewn perthynas â'i ardal.
(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi gan awdurdodau lleol
(3)Caiff is-adran (1) rym yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 (Gwaith adeiladu a oruchwylir gan rywun ac eithrio awdurdodau lleol).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 9(3)
(1)Lle y bydd, yn unol â rheoliadau adeiladu—
(a)hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o gynnig i wneud gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, neu
(b)cynlluniau llawn o waith o'r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol,
rhaid i hysbysiad neu gynlluniau o'r fath gynnwys y cyfryw wybodaeth ag sy'n ofynnol o dan is-adran (2) neu rhaid i wybodaeth o'r fath fynd gydag ef, a rhaid cynnwys y cyfryw ffi a ragnodir.
(2)Yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr is-adran hon yw'r cyfryw wybodaeth, at ddibenion dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion adran 1(4), ac sydd, boed mewn perthynas â ffurf neu â chynnwys, wedi'i rhagnodi.
(3)Os, ar ôl rhoi hysbysiad o'r fath neu adneuo cynlluniau o'r fath, nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol gan is-adran (2)—
(a)yn gyflawn ym marn yr awdurdod lleol, neu
(b)yn dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion is-adran 1(4) ym marn yr awdurdod lleol,
rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod perthnasol, roi hysbysiad yn ysgrifenedig o'r farn honno i'r person a roddodd yr hysbysiad hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y person a adneuodd y cynlluniau hynny, gan nodi'r rhesymau dros y farn honno.
(4)Caiff person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-adran (3) ddiwygio'r wybodaeth y mae'r hysbysiad yn perthyn iddi a'i chyflwyno i'r awdurdod lleol, ac, yn yr achos hwnnw, ni fydd grym i'r hysbysiad a roddir o dan is-adran (3), ac, yn ddarostyngedig i is-adran (5), bydd is-adrannau (2) a (3) yn gymwys mewn perthynas â'r wybodaeth honno fel pe bai wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad neu'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) neu fel pe bai wedi mynd gyda hwy.
(5)Os caiff gwybodaeth ddiwygiedig ei chyflwyno o dan is-adran (4), bydd y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato yn is-adran (3) yn mynd o'r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth.
(6)At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw pum wythnos neu'r cyfryw gyfnod estynedig sy'n dod i derfyn heb fod yn hwyrach na deufis ar ôl—
(a)rhoi'r hysbysiad neu adneuo'r cynlluniau, neu
(b)pan fydd is-adran (4) yn gymwys, y dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth,
ag a gytunir yn ysgrifenedig cyn diwedd y pum wythnos ar y cyd â'r awdurdod lleol a'r person sy'n rhoi'r cyfryw hysbysiad neu'n adneuo'r cyfryw gynlluniau.
(7)Mewn unrhyw achos pan fydd cwestiwn yn codi ynghylch cywirdeb barn awdurdod lleol y seiliwyd hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (3) arni, caiff y person y cafodd y cyfryw hysbysiad ei roi iddo gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru i'w benderfynu a chaiff Gweinidogion Cymru ddiddymu, addasu neu gadarnhau'r hysbysiad.
(8)Rhaid i'r ffi a ragnodir fynd gydag unrhyw gyfeiriad at Weinidogion Cymru o dan is-adran (7).
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 3(1)(2) mewn grym ar 8.4.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 9(2)(a)
Rhagolygol
Mae darpariaethau'r adrannau canlynol o Ddeddf 1984 yn gymwys mewn perthynas â dogfennau yr awdurdodir neu y gorfodir eu rhoi, eu gwneud, eu dyroddi neu'u cyflwyno o dan y Mesur hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â'r rhai a roddir, a wneir, a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Ddeddf honno—
(a)adran 93 (dilysu dogfennau),
(b)adran 94 (cyflwyno dogfennau), ac
(c)adran 94A (cyflwyno dogfennau'n electronig).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 9(3)
Rhagolygol
Dim ond y canlynol sy'n cael cychwyn achos llys mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan y Mesur hwn neu oddi tano—
(a)yr awdurdod lleol, neu
(b)Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 9(3)
(1)Yn y Mesur hwn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
“Deddf 1984 ” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984 (p.55),
ystyr “gwaith adeiladu” (“building work”) yw gwaith i godi, estyn neu addasu adeilad,
[F1“mae i “fflat” (“flat”) yr ystyr a roddir i “flat” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010(1)”]
[F1“mae i “tŷ annedd” (“dwelling-house”) yr ystyr a roddir i “dwelling-house” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010”]
“hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,
“hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,
ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Neddf 1984,
ystyr “preswylfa” (“residence”) yw—
tŷ annedd,
fflat,
[F2man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,]
[F3neuadd breswyl;
ystafell neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n dŷ annedd nac yn fflat ac sy’n cael ei defnyddio gan un neu fwy o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac sy’n cynnwys ystafell mewn hostel neu dŷ preswyl, ond nid yw’n cynnwys—
ystafell mewn gwesty;
ystafell mewn hostel sy’n cael ei darparu fel llety dros dro i’r rhai hynny sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall;
ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall sy’n cael ei defnyddio fel llety i gleifion;
ystafelloedd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;
mangre ar gyfer lletya personau sydd wedi eu remandio ar fechnïaeth;
mangre ar gyfer lletya personau y gall fod yn ofynnol iddynt, drwy orchymyn prawf breswylio yno, F4...]
[F5mangre lle y mae gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu, neu;]
[F6man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, ond nid—
sefydliad yn y sector addysg bellach fel y’i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
man lle y mae llety yn cael ei ddarparu at ddibenion—
gwyliau;
gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
oni bai bod plentyn yn cael ei letya yno am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis; a]
lle y mae adeilad yn cynnwys un breswylfa neu fwy, yn cynnwys unrhyw ran o'r adeilad hwnnw y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n byw yn y breswylfa honno neu'r preswylfeydd hynny at ddibenion atodol i'r feddiannaeth honno sy'n gyffredin â'i gilydd neu â defnyddwyr eraill yr adeilad,
ystyr “rhagnodwyd” (“prescribed”) yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru,
ystyr “rheoliadau adeiladu” (“building regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1984,
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, boed yn gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion o fath arbennig neu mewn mater penodol, ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”), mewn perthynas â phwrpas ac ag awdurdod lleol, yw swyddog a benodwyd at y diben hwnnw gan yr awdurdod hwnnw.
[F7(1A)Yn is-adran (1), ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.]
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio diffiniad “preswylfa” yn is-adran (1) drwy—
(a)ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl, neu
(b)diwygio'r disgrifiad o ddosbarth o fangreoedd preswyl sydd eisoes yn bodoli.
(3)Yn is-adran (2), ystyr “mangreoedd preswyl” (“residential premises”) yw'r ystyr a roddir iddo yn—
(a)paragraff 7 o Ran 1 Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), unwaith y bydd mewn grym, neu,
(b)tan hynny, Mater 11.1 yn Rhan 1 Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 6(1) wedi eu mewnosod (30.4.2014) gan Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2723), erglau. 1(2), 2(2)
F2Geiriau yn a. 6(1) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(1), 44(2)(a)
F3Geiriau yn a. 6(1) wedi eu hamnewid (30.4.2014) gan Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2723), erglau. 1(2), 2(3)(a)
F4Gair yn a. 6(1) wedi ei hepgor (2.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(1), 44(2)(b)
F5Geiriau yn a. 6(1) wedi eu mewnosod (2.4.2018) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(1), 44(2)(c)
F6Geiriau yn a. 6(1) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(1), 44(2)(d)
F7A. 6(1A) wedi ei fewnosod (2.4.2018) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(1), 44(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 6 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(b)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.
(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
(3)Yn yr adran hon, mae “deddfiad” yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, Mesur Cynulliad, Deddf Cynulliad neu Ddeddf Seneddol, ac is-ddeddfwriaeth, pa un a ddaethant i rym cyn neu ar ôl i'r adran hon ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 7 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(b)
(1)Mewn perthynas â rheoliadau neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—
(a)rhaid eu gwneud drwy offeryn statudol,
(b)caniateir gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dosbarthiadau gwahanol o achosion a dibenion gwahanol,
(c)caniateir gwneud unrhyw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol, arbed, cysylltiedig neu atodol fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda,
(d)caniateir eu gwneud, yn achos rheoliadau sy'n rhagnodi materion at ddibenion adrannau 1(4)(c), 3(1) neu 3(2), dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru gynnal y cyfryw ymgynghoriad ag y maent o'r farn ei fod yn briodol,
(e)caniateir eu gwneud, yn achos—
(i)gorchmynion a wneir o dan adran 6(2), a
(ii)gorchmynion a wneir o dan adran 7(1) sy'n diwygio, yn diddymu neu'n addasu unrhyw Fesur Cynulliad, Deddf y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol,
dim ond os oes drafft o'r gorchymyn wedi'i osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad, ac
(f)ac eithrio—
(i)y rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), a
(ii)y rheini a wneir o dan adran 9(3),
maent yn agored i gael eu diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 8 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(b)
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.
(2)Daw darpariaethau canlynol y Mesur hwn i rym ar y diwrnod ar ôl cael Cymeradwyaeth Frenhinol—
(a)adrannau 1(4), 3(1) a 3(2), ond dim ond at ddiben galluogi materion i gael eu rhagnodi o dan adrannau 1(4)(c), 3(1) a 3(2), yn ôl y drefn honno,
(b)adrannau 6, 7 a 8, ac
(c)yr adran hon.
(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y cyfryw ddydd neu ddyddiau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 9 mewn grym ar 8.4.2011, gweler a. 9(2)(c)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: