1Dyletswydd i ddarparu systemau llethu tân awtomatig

(1)Rhaid i waith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, mewn perthynas â phob preswylfa y mae'n gymwys iddi, gydymffurfio â gofynion is-adran (4) unwaith—

(a)y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, neu

(b)y bydd y breswylfa wedi'i meddiannu at ddibenion preswyl,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu yng Nghymru sy'n cynnwys—

(a)adeiladu adeilad i fod yn un breswylfa neu fwy,

(b)trosi adeilad, neu ran o adeilad, i fod yn un breswylfa neu fwy,

(c)isrannu un breswylfa bresennol neu fwy er mwyn creu un breswylfa newydd neu fwy, neu

(d)cyfuno preswylfeydd presennol er mwyn creu preswylfa newydd neu breswylfeydd newydd.

(3)Nid yw'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu—

(a)sy'n cael ei gyflawni at ddibenion unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron, neu

(b)os yw rheoliadau adeiladu sy'n gosod gofynion o ran darparu systemau llethu tân awtomatig yn gymwys i'r gwaith hwnnw neu os y byddai'n gymwys oni bai am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 sy'n hepgor gofynion o'r fath.

(4)Gofynion yr is-adran hon yw—

(a)bod rhaid darparu system llethu tân awtomatig ym mhob preswylfa,

(b)bod y system yn gweithio'n effeithiol, ac

(c)bod y system yn cydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag a ragnodir.

(5)Mae'r cyfeiriadau yn is-adran (4) at system llethu tân awtomatig hefyd yn cynnwys unrhyw gyflenwad ynni, dŵr, neu sylwedd arall, sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio'n effeithiol.

2Gorfodi

(1)Ac eithrio fel y darperir gan is-adran (3), dyletswydd awdurdod lleol yw gorfodi darpariaethau'r Mesur hwn mewn perthynas â'i ardal.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi gan awdurdodau lleol

(3)Caiff is-adran (1) rym yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 (Gwaith adeiladu a oruchwylir gan rywun ac eithrio awdurdodau lleol).

3Darparu gwybodaeth

(1)Lle y bydd, yn unol â rheoliadau adeiladu—

(a)hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o gynnig i wneud gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, neu

(b)cynlluniau llawn o waith o'r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol,

rhaid i hysbysiad neu gynlluniau o'r fath gynnwys y cyfryw wybodaeth ag sy'n ofynnol o dan is-adran (2) neu rhaid i wybodaeth o'r fath fynd gydag ef, a rhaid cynnwys y cyfryw ffi a ragnodir.

(2)Yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr is-adran hon yw'r cyfryw wybodaeth, at ddibenion dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion adran 1(4), ac sydd, boed mewn perthynas â ffurf neu â chynnwys, wedi'i rhagnodi.

(3)Os, ar ôl rhoi hysbysiad o'r fath neu adneuo cynlluniau o'r fath, nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol gan is-adran (2)—

(a)yn gyflawn ym marn yr awdurdod lleol, neu

(b)yn dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion is-adran 1(4) ym marn yr awdurdod lleol,

rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod perthnasol, roi hysbysiad yn ysgrifenedig o'r farn honno i'r person a roddodd yr hysbysiad hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y person a adneuodd y cynlluniau hynny, gan nodi'r rhesymau dros y farn honno.

(4)Caiff person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-adran (3) ddiwygio'r wybodaeth y mae'r hysbysiad yn perthyn iddi a'i chyflwyno i'r awdurdod lleol, ac, yn yr achos hwnnw, ni fydd grym i'r hysbysiad a roddir o dan is-adran (3), ac, yn ddarostyngedig i is-adran (5), bydd is-adrannau (2) a (3) yn gymwys mewn perthynas â'r wybodaeth honno fel pe bai wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad neu'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) neu fel pe bai wedi mynd gyda hwy.

(5)Os caiff gwybodaeth ddiwygiedig ei chyflwyno o dan is-adran (4), bydd y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato yn is-adran (3) yn mynd o'r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth.

(6)At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw pum wythnos neu'r cyfryw gyfnod estynedig sy'n dod i derfyn heb fod yn hwyrach na deufis ar ôl—

(a)rhoi'r hysbysiad neu adneuo'r cynlluniau, neu

(b)pan fydd is-adran (4) yn gymwys, y dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth,

ag a gytunir yn ysgrifenedig cyn diwedd y pum wythnos ar y cyd â'r awdurdod lleol a'r person sy'n rhoi'r cyfryw hysbysiad neu'n adneuo'r cyfryw gynlluniau.

(7)Mewn unrhyw achos pan fydd cwestiwn yn codi ynghylch cywirdeb barn awdurdod lleol y seiliwyd hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (3) arni, caiff y person y cafodd y cyfryw hysbysiad ei roi iddo gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru i'w benderfynu a chaiff Gweinidogion Cymru ddiddymu, addasu neu gadarnhau'r hysbysiad.

(8)Rhaid i'r ffi a ragnodir fynd gydag unrhyw gyfeiriad at Weinidogion Cymru o dan is-adran (7).

4Dilysu a chyflwyno dogfennau

Mae darpariaethau'r adrannau canlynol o Ddeddf 1984 yn gymwys mewn perthynas â dogfennau yr awdurdodir neu y gorfodir eu rhoi, eu gwneud, eu dyroddi neu'u cyflwyno o dan y Mesur hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â'r rhai a roddir, a wneir, a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Ddeddf honno—

(a)adran 93 (dilysu dogfennau),

(b)adran 94 (cyflwyno dogfennau), ac

(c)adran 94A (cyflwyno dogfennau'n electronig).

5Erlyn am dramgwyddau

Dim ond y canlynol sy'n cael cychwyn achos llys mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan y Mesur hwn neu oddi tano—

(a)yr awdurdod lleol, neu

(b)Gweinidogion Cymru.

6Dehongli

(1)Yn y Mesur hwn—

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio diffiniad “preswylfa” yn is-adran (1) drwy—

(a)ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl, neu

(b)diwygio'r disgrifiad o ddosbarth o fangreoedd preswyl sydd eisoes yn bodoli.

(3)Yn is-adran (2), ystyr “mangreoedd preswyl” (“residential premises”) yw'r ystyr a roddir iddo yn—

(a)paragraff 7 o Ran 1 Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), unwaith y bydd mewn grym, neu,

(b)tan hynny, Mater 11.1 yn Rhan 1 Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.

7Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

(3)Yn yr adran hon, mae “deddfiad” yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, Mesur Cynulliad, Deddf Cynulliad neu Ddeddf Seneddol, ac is-ddeddfwriaeth, pa un a ddaethant i rym cyn neu ar ôl i'r adran hon ddod i rym.

8Rheoliadau a gorchmynion

(1)Mewn perthynas â rheoliadau neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—

(a)rhaid eu gwneud drwy offeryn statudol,

(b)caniateir gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dosbarthiadau gwahanol o achosion a dibenion gwahanol,

(c)caniateir gwneud unrhyw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol, arbed, cysylltiedig neu atodol fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda,

(d)caniateir eu gwneud, yn achos rheoliadau sy'n rhagnodi materion at ddibenion adrannau 1(4)(c), 3(1) neu 3(2), dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru gynnal y cyfryw ymgynghoriad ag y maent o'r farn ei fod yn briodol,

(e)caniateir eu gwneud, yn achos—

(i)gorchmynion a wneir o dan adran 6(2), a

(ii)gorchmynion a wneir o dan adran 7(1) sy'n diwygio, yn diddymu neu'n addasu unrhyw Fesur Cynulliad, Deddf y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol,

dim ond os oes drafft o'r gorchymyn wedi'i osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad, ac

(f)ac eithrio—

(i)y rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), a

(ii)y rheini a wneir o dan adran 9(3),

maent yn agored i gael eu diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.

9Teitl byr a chychwyn

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.

(2)Daw darpariaethau canlynol y Mesur hwn i rym ar y diwrnod ar ôl cael Cymeradwyaeth Frenhinol—

(a)adrannau 1(4), 3(1) a 3(2), ond dim ond at ddiben galluogi materion i gael eu rhagnodi o dan adrannau 1(4)(c), 3(1) a 3(2), yn ôl y drefn honno,

(b)adrannau 6, 7 a 8, ac

(c)yr adran hon.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y cyfryw ddydd neu ddyddiau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.