YR ATODLENY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU
I1RHAN 2PROTOCOLAU
PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN AR WERTHU PLANT, PUTEINDRA PLANT A PHORNOGRAFFI PLANT
Erthygl 8
1
Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu mesurau priodol i amddiffyn hawliau a buddiannau plant sydd wedi bod yn ddioddefwyr yr arferion a waherddir o dan y Protocol presennol ym mhob cam yn y broses cyfiawnder troseddol, a hynny'n benodol drwy wneud y canlynol:
a
cydnabod hyglwyfedd plant sy'n ddioddefwyr ac addasu gweithdrefnau i gydnabod eu hanghenion arbennig, gan gynnwys eu hanghenion arbennig fel tystion;
b
hysbysu plant sy'n ddioddefwyr o'u hawliau, eu rôl a chwmpas, amseriad a chynnydd y rheithdrefn ac o'r penderfyniad ar eu hachosion;
c
caniatáu i sylwadau, anghenion a phryderon plant sy'n ddioddefwyr gael eu cyflwyno a'u hystyried mewn rheithdrefnau lle'r effeithir ar eu buddiannau personol, mewn modd sy'n gyson â rheolau gweithdrefnol y gyfraith genedlaethol;
d
darparu gwasanaethau cymorth priodol i blant sy'n ddioddefwyr drwy gydol y broses gyfreithiol;
e
diogelu, fel y bo'n briodol, breifatrwydd a hunaniaeth plant sy'n ddioddefwyr a chymryd mesurau'n unol â'r gyfraith genedlaethol i osgoi lledaenu'n amhriodol wybodaeth a allai arwain at ganfod pwy yw'r plant sy'n ddioddefwyr;
f
darparu, mewn achosion priodol, ar gyfer diogelu plant sy'n ddioddefwyr, yn ogystal â'u teuluoedd a'r rhai sy'n tystiolaethu ar eu rhan, rhag bygylu a dial;
g
osgoi oedi diangen cyn penderfynu achosion ac ufuddhau i orchmynion neu archddyfarniadau sy'n rhoi iawndal i blant sy'n ddioddefwyr.
Atod. Rhn. 2 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11