YR ATODLENY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

I1C1RHAN 1RHAN I O'R CONFENSIWN

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. Rhn. 1 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

Modifications etc. (not altering text)
C1

Atod. Rhn. 1 cymhwyswyd (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 7(2)(a), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Erthygl 28

1

Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael addysg, a chyda golwg ar sicrhau'r hawl hon yn raddol ac ar sail cyfle cyfartal, rhaid iddynt, yn benodol:

a

gwneud addysg gynradd yn orfodol a threfnu iddi fod ar gael yn ddi-dâl i bawb;

b

hybu datblygiad gwahanol ffurfiau ar addysg uwchradd, gan gynnwys addysg gyffredinol a galwedigaethol, trefnu iddynt fod ar gael ac o fewn cyrraedd pob plentyn, a chymryd mesurau priodol megis cyflwyno addysg ddi-dâl a chynnig cymorth ariannol pan fo angen;

c

trefnu bod addysg uwch o fewn cyrraedd pawb ar sail galluedd drwy bob ffordd bosibl;

d

trefnu bod gwybodaeth a chanllawiau addysgol a galwedigaethol ar gael ac o fewn cyrraedd pob plentyn;

e

cymryd mesurau i annog presenoldeb rheolaidd mewn ysgolion ac i leihau cyfraddau gadael yn rhy gynnar.

2

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau y caiff disgyblaeth ysgol ei gweinyddu mewn modd sy'n gyson ag urddas ddynol y plentyn ac yn cydymffurfio â'r Confensiwn presennol.

3

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu a annog cydweithrediad rhyngwladol mewn materion sy'n ymwneud ag addysg, yn enwedig gyda golwg ar gyfrannu at y broses o gael gwared ar anwybodaeth ac anllythrennedd ledled y byd a hwyluso mynediad at wybodaeth wyddonol a thechnegol a dulliau addysgu modern. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.