Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Erthygl 22LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau priodol i sicrhau y caiff plentyn sy'n ceisio statws ffoadur neu sy'n cael ei ystyried yn ffoadur yn unol â chyfraith ryngwladol neu ddomestig a gweithdrefnau rhyngwladol neu ddomestig sy'n gymwysadwy, p'un a yw'n dod heb neb gydag ef neu'n dod gyda'i rieni neu unrhyw berson arall, amddiffyniad priodol a chymorth dyngarol i fwynhau'r hawliau cymwysadwy sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol ac mewn offerynnau hawliau dynol rhyngwladol eraill neu offerynnau dyngarol rhyngwladol eraill y mae'r Gwladwriaethau a enwyd yn Bartïon iddynt.

2LL+CAt y diben hwn, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gydweithredu, yn ôl yr hyn sy'n briodol yn eu barn hwy, ag unrhyw ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhynglywodraethol neu anllywodraethol cymwys eraill sy'n cydweithredu gyda'r Cenhedloedd Unedig i amddiffyn a chynorthwyo'r plentyn hwnnw ac i olrhain rhieni unrhyw blentyn sy'n ffoadur neu aelodau eraill o'i deulu er mwyn cael gwybodaeth a fyddai'n angenrheidiol iddo ailymuno â'i deulu. Mewn achosion lle na ellir dod o hyd i unrhyw rieni neu aelodau eraill o'r teulu, rhaid rhoi i'r plentyn yr un amddiffyniad ag unrhyw blentyn arall sydd wedi ei amddifadu'n barhaol neu dros dro o'i amgylchfyd teuluol am unrhyw reswm, fel a nodwyd yn y Confensiwn presennol.