RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 5APELAU GAN YR ACHWYNYDD
Apelau yn erbyn dyfarniad nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon
99Hawl P i apelio
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)
os yw person (P) yn gwneud cwyn o dan adran 93,
(b)
os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn y gŵyn, ac
(c)
os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon.
(2)
Caiff P apelio i'r Tribiwnlys ar y sail bod D wedi methu â chydymffurfio â'r safon.
(3)
Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
(4)
Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—
(a)
dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
(b)
os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
(5)
Caniateir i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
(6)
Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar apêl o dan yr adran hon.
(7)
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).
(8)
Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r Comisiynydd yn rhoi'r hysbysiad penderfynu i P mewn perthynas â'r ymchwiliad.