RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 4APELAU

98Dyletswydd y Comisiynydd ar apêl

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)

os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn cwyn o dan adran 93, a

(b)

os gwneir apêl o dan adran 95 neu 97, neu os gwneir unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â'r ymchwiliad, ac

(c)

os nad yw P yn barti yn yr achos hwnnw.

(2)

Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad, apêl o dan adran 95 roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad,

(b)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o apêl o dan adran 97, neu unrhyw apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi bod yr apêl wedi ei gwneud, ac

(c)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 97 neu o ganlyniad apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad.