RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 4APELAU
I1I295Apelau i'r Tribiwnlys
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
a
yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a
b
yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
2
Caiff D apelio i'r Tribiwnlys ar y sail na fethodd D â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
3
Ond ni chaiff D apelio i'r Tribiwnlys o dan is-adran (2) os yw'r Comisiynydd wedi ei gyfarwyddo, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu 101, neu unrhyw apêl bellach, i ddyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
4
Os yw'r Comisiynydd yn cymryd camau gorfodi mewn cysylltiad â methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, caiff D apelio i'r Tribiwnlys ar y sail bod y camau gorfodi yn afresymol neu'n anghymesur.
5
Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
6
Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan D, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—
a
dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
b
os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
7
Caniateir i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
8
Caiff D apelio o dan is-adran (4) p'un a yw D yn apelio hefyd o dan is-adran (2) ai peidio.
9
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).
10
Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r Comisiynydd yn rhoi'r hysbysiad penderfynu i D mewn perthynas â'r ymchwiliad.