xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CGORFODI SAFONAU

Valid from 07/07/2015

PENNOD 3LL+CDIFFYG CYDYMFFURFIO Å SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

94Hysbysiad os nad oes ymchwiliad etcLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw—

(a)pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.

(4)Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.

(5)Y pedwerydd achos yw—

(a)pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.

(6)Y pumed achos yw—

(a)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, ac

(b)pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.

(7)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P—

(a)o'r penderfyniad a nodir yn is-adrannau (2)(b), (3)(b), (4), (5)(b) neu (6)(b), a

(b)o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac

(c)o'r hawl i gael adolygiad o dan adran 103.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 94 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)