RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 3DIFFYG CYDYMFFURFIO Å SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

93Ystyried ai i ymchwilio ai peidio os gwneir cwyn ynghylch ymddygiad

(1)

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan adran 71 ai peidio i'r cwestiwn a yw ymddygiad person (D) (“yr ymddygiad honedig”) yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio â safon—

(a)

os yw person (P) yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd ynglŷn â'r ymddygiad, a

(b)

os yw'r gŵyn yn un ddilys.

(2)

Mae cwyn gan P i'r Comisiynydd yn gŵyn ddilys os bodlonir yr amodau yn is-adrannau (3) i (6).

(3)

Rhaid i P fod—

(a)

yn berson y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol, neu

(b)

yn berson sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw.

(4)

Rhaid gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig, oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud y gŵyn yn ysgrifenedig.

(5)

Rhaid i'r gŵyn roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).

(6)

Rhaid i'r gŵyn—

(a)

ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a

(b)

ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymddygiad honedig.

(7)

Ond, os bodlonir yr amodau hynny, nid oes angen i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—

(a)

os gwneir y gŵyn fwy na blwyddyn ar ôl i'r person yr effeithiwyd arno ddod yn ymwybodol o'r ymddygiad honedig,

(b)

os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y gŵyn yn wacsaw neu'n flinderus, neu'n un sydd eisoes wedi ei gwneud sawl gwaith, neu

(c)

os tynnir y gŵyn yn ôl.

(8)

Nid yw'r adran hon yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ai i gynnal yr ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—

(a)

os na fodlonir unrhyw un neu ragor o'r amodau yn is-adrannau (3) i (6), neu

(b)

os yw is-adran (7) yn gymwys.

(9)

Os gwneir cwyn o dan yr adran hon gan berson sy'n gweithredu ar ran person arall, yn narpariaethau'r Mesur hwn sy'n ymwneud ag apelau neu apelau pellach sy'n gysylltiedig â'r gŵyn, mae cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn (gan gynnwys achos pan gyfeirir at y person hwnnw fel “P”) i'w ddarllen fel cyfeiriad at y person arall (ac nid fel cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn).

(10)

Yn yr adran hon ystyr “person yr effeithiwyd arno” yw person y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol.