RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
9Cymorth cyfreithiol
(1)
Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(2)
Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—
(a)
yn rhinwedd deddfiad, neu
(b)
yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.
(3)
Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(4)
Yn yr adran hon—
mae “achos cyfreithiol” (“legal proceedings”) yn cynnwys achos gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny;
mae “cymorth” (“assistance”) yn cynnwys y pethau a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(a)
cyngor cyfreithiol;
(b)
cynrychiolaeth gyfreithiol;
(c)
cyfleusterau i setlo anghydfod.