RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Ymgynghori

85Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol etc

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan adran 71.

(2)

Cyn dyfarnu'n derfynol ynghylch a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant hysbysiad o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(3)

Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—

(a)

hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;

(b)

os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gweithredu felly; ac

(c)

copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(4)

Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.

(5)

Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)

rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2), (3) a (4), a

(b)

rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (4).

(6)

Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant cyn cymryd unrhyw gam y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef.

(7)

Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau yn unol ag is-adran (5); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.