RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Cosbau sifil

84Rhoi cosb sifil

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—

(a)

yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a

(b)

yn penderfynu rhoi cosb sifil i D.

(2)

Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan—

(a)

y gosb sifil y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu ei rhoi;

(b)

sut y caniateir i'r gosb sifil gael ei thalu;

(c)

y cyfnod y mae'n rhaid talu'r gosb sifil cyn iddo ddod i ben (ac y mae'n rhaid iddo fod yn gyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau).

(3)

Rhaid i hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod hefyd i D—

(a)

beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn talu'r gosb sifil; a

(b)

am yr hawl i apelio o dan adran 95.

(4)

Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(5)

Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.