RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Cosbau sifil

83Cosbau sifil

(1)

Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r materion a nodir yn is-adran (2) pan fydd yn penderfynu—

(a)

ai i roi cosb sifil i unrhyw berson ai peidio, a

(b)

ynghylch swm unrhyw gosb sifil.

(2)

Y canlynol yw'r materion hynny—

(a)

pa mor ddifrifol yw'r mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef;

(b)

amgylchiadau'r person y mae'r gosb sifil i'w rhoi iddo;

(c)

yr angen am atal parhau neu ailadrodd y mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef.

(3)

Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag rhoi sylw i faterion eraill.

(4)

Rhaid i gosb sifil beidio â bod yn fwy na £5,000.

(5)

Mae cosb sifil yn adferadwy gan y Comisiynydd fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.

(6)

Rhaid i'r Comisiynydd dalu'r holl gosbau sifil sy'n dod i law i Gronfa Gyfunol Cymru.

(7)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi swm gwahanol yn lle'r swm sydd wedi ei bennu o bryd i'w gilydd yn is-adran (4).

(8)

Yn yr adran hon ystyr “cosb sifil” yw unrhyw gosb sifil y caiff y Comisiynydd ei rhoi.