RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Dim methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd

76Dim methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(2)

Caiff y Comisiynydd—

(a)

peidio â gweithredu ymhellach, neu

(b)

gweithredu o dan is-adran (3).

(3)

Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—

(a)

rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;

(b)

rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.

(4)

Os yw'r ymchwiliad a arweiniodd at y dyfarniad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran 93, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵyn am yr hawl i apelio o dan adran 99.

(5)

Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(6)

Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i'r person a wnaeth y gŵyn o dan adran 93.