RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Adroddiadau ar ymchwiliadau
74Adroddiadau ar ymchwiliadau
(1)
Yn y Mesur hwn, ystyr “adroddiad ar ymchwiliad” yw adroddiad ar ymchwiliad o dan adran 71 sy'n cynnwys pob un o'r canlynol—
(a)
cylch gorchwyl yr ymchwiliad;
(b)
crynodeb o'r dystiolaeth a gymerwyd yn ystod yr ymchwiliad;
(c)
canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;
(d)
dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio;
(e)
datganiad ar a yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach;
(f)
os yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach, datganiad ar y gweithredu hwnnw.
(2)
Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag cynnwys materion eraill mewn adroddiad ar ymchwiliad.