xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 25/03/2015

RHAN 5LL+CGORFODI SAFONAU

Valid from 07/07/2015

PENNOD 1LL+CYMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

YmchwiliadauLL+C

72Terfynu ymchwiliadLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71.

(2)Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad ar unrhyw adeg.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd—

(a)hysbysu pob person a chanddo fuddiant, a

(b)hysbysu D o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)