RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Ymchwiliadau
71Ymchwilio i fethiant i gydymffurfio â safonau etc
(1)
Caiff y Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
(2)
Yn y Rhan hon, ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a)
dyletswydd i gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru (gweler adran 25);
(b)
gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 79 (gofyniad i baratoi cynllun gweithredu, neu i gymryd camau);
(c)
cynllun gweithredu (gweler adrannau 79 a 80);
(d)
gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 82 (rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio).
(3)
Os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol, dim ond os yw'n amau bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol y caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon.
(4)
Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag ymchwiliadau.