RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
7Ymholiadau
(1)
Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.
(2)
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).
(3)
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—
(a)
lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu
(b)
lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).
(4)
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.
(5)
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).
(6)
Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—
(a)
i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu
(b)
i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.
(7)
Caiff y Comisiynydd—
(a)
terfynu, neu
(b)
atal,
ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.
(8)
Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—
(a)
wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,
(b)
caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac
(c)
caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.
(9)
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.
(10)
Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.