RHAN 4SAFONAU
PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU
Ymchwiliadau safonau
63Y gofynion wrth gynnal ymchwiliadau safonau
(1)
Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r angen am sicrhau nad yw gofynion am i bersonau gydymffurfio â safonau yn rhinwedd adran 25(1) yn afresymol neu'n anghymesur.
(2)
Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu, neu'n cael ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, rhaid i'r ymchwiliad—
(a)
ystyried, o ran pob gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 y mae P yn ei wneud, a yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P ai peidio, a
(b)
o ran pob gweithgaredd o'r fath, os yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, ddod i'r casgliad y dylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.
(3)
Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—
(a)
â phob person perthnasol,
(b)
â'r Panel Cynghori, ac
(c)
â'r cyhoedd, ac eithrio—
(i)
os yw'n ystyried, neu
(ii)
i'r graddau y mae'n ystyried
ei bod yn amhriodol gwneud hynny.
(4)
Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.
(5)
Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—
(a)
yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;
(b)
yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—
(i)
yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a
(ii)
y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.