xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 8LL+CYMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Ymchwiliadau safonauLL+C

62Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.

(2)Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr ymchwiliad.

(3)Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—

(a)sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a

(b)sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 62 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)