RHAN 4SAFONAU

PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Ymchwiliadau safonau

62Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonau

(1)

Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.

(2)

Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr ymchwiliad.

(3)

Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—

(a)

sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a

(b)

sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.

(4)

Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)

yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)

yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)

yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)

y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y Comisiynydd.