RHAN 4SAFONAU
PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU
Ymchwiliadau safonau
61Ymchwiliadau safonau
(1)
Yn y Mesur hwn ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad a gynhelir mewn perthynas â pherson (P) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o'r cwestiynau canlynol—
(a)
a ddylai P fod yn agored — neu a ddylai P barhau i fod yn agored — i orfod cydymffurfio â safonau;
(b)
os yw P yn dod o fewn Atodlen 6, pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn gymwysadwy i P;
(c)
os yw P yn dod o fewn Atodlen 8, pa wasanaethau (os o gwbl) a ddylai gael — neu a ddylai barhau i gael — eu pennu yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8;
(d)
pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn benodol gymwys i P (p'un a yw'r safonau eisoes wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) ai peidio);
(e)
unrhyw gwestiwn arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn berthnasol o ran y graddau y caniateir i P fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safonau.
(2)
Caniateir cynnal ymchwiliad safonau penodol mewn perthynas—
(a)
â pherson penodol, neu
(b)
â grŵp o bersonau.