RHAN 4SAFONAU

PENNOD 7YR HAWL I HERIO

60Gohirio gosod dyletswydd

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais o dan adran 54 am i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(2)

Ni fydd y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu am i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw'n gymwys oni fydd neu hyd oni fydd—

(a)

y Comisiynydd wedi dyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio, a

(b)

hawliau P i apelio wedi eu disbyddu.

(3)

At y diben hwnnw, bydd hawliau P wedi eu disbyddu—

(a)

os bydd y cyfnod a grybwyllir yn adran 58(3) ar gyfer gwneud apêl i'r Tribiwnlys wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei gwneud, neu

(b)

os bydd apêl o dan adran 58 wedi ei gwneud a'i dyfarnu ac, o ran apêl bellach—

(i)

na ellir gwneud un, neu

(ii)

na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.