RHAN 4SAFONAU

PENNOD 7YR HAWL I HERIO

59Apelau o'r Tribiwnlys

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 58.

(2)

Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)

Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)

caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)

os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)

anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)

ail-wneud y penderfyniad.

(4)

Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)

cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du;

(b)

cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)

Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)

gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)

gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)

Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i ddyfarniad ar yr apêl o dan adran 58.

(7)

Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)

dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)

os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)

Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.