RHAN 4SAFONAU
PENNOD 7YR HAWL I HERIO
57Dyfarnu ar gais
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)
i unrhyw gais o dan adran 54, a
(b)
i unrhyw gais o dan adran 55 nad yw'r Comisiynydd yn gwrthod ei dderbyn.
(2)
Mater i P yw dangos bod y gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.
(3)
Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu ar y cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cais gael ei wneud.
(4)
Wrth ddyfarnu ar y cais—
(a)
rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â P, a
(b)
caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yng nghanlyniad y cais ym marn y Comisiynydd.
(5)
Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P o'r dyfarniad ar y cais.
(6)
Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur, rhaid iddo wneud un o'r canlynol—
(a)
dirymu'r hysbysiad cydymffurfio;
(b)
dirymu'r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd;
(c)
amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol.
(7)
Os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu'n amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol—
(a)
nid yw adran 45(3) yn gymwys, a
(b)
nid yw adrannau 46(3) a 47 yn gymwys i'r graddau y mae'r Comisiynydd a P yn cytuno ar yr hysbysiad newydd, neu ar yr amrywiad i'r hysbysiad cydymffurfio presennol.