xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 7LL+CYR HAWL I HERIO

54Herio dyletswyddau dyfodolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol

oddi ar ddiwrnod gosod yn y dyfodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Os yw'r dyfarniad hwnnw'n cael ei wneud cyn y diwrnod gosod, rhaid i'r Comisiynydd wrth wneud y dyfarniad ystyried yr amgylchiadau fel y disgwylir iddynt fod ar y diwrnod gosod.

(4)Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud cyn y diwrnod gosod.

(5)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “diwrnod gosod” yr ystyr sydd iddo yn adran 46.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 54 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)