RHAN 4SAFONAU
PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio
52Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd mewn grym.
(2)
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—
(a)
bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
(b)
y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
(3)
Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei ddyfarnu'n derfynol—
(a)
bod y cais wedi ei wneud, a
(b)
nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60 (os dyna'r sefyllfa).
(4)
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.
(5)
Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—
(a)
os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;
(b)
os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.