RHAN 4SAFONAU

PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO

Rhoi hysbysiadau cydymffurfio

47Ymgynghori

(1)

Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.

(2)

Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).

(3)

Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.