Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

44Hysbysiadau cydymffurfioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P) gan y Comisiynydd—

(a)sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.

(2)Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol—

(a)mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;

(b)mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.

(3)Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—

(a)ag un o'r safonau'n unig, neu

(b)â gwahanol safonau—

(i)ar adegau gwahanol;

(ii)mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol);

(iii)mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 44 mewn grym ar 17.4.2012 gan O.S. 2012/1096, ergl. 2(c)