RHAN 4SAFONAU

PENNOD 5SAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS

43Cyfyngiad ar y pŵer i wneud safonau'n benodol gymwys

(1)

Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu bod safon—

(a)

yn benodol gymwys i berson, oni bai bod y safon yn gymwysadwy i'r person hwnnw, neu

(b)

yn benodol gymwys i grŵp o bersonau oni bai bod y safon yn gymwysadwy i bob person yn y grŵp hwnnw.

(2)

Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno.

(3)

Mewn achos—

(a)

pan fo safon yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron, a

(b)

pan fo'r safon yn cael ei haddasu gan ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 26,

nid yw'r safon fel y mae wedi ei haddasu yn benodol gymwys i Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno yn y rheoliadau hynny.

(4)

Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “Gweinidogion y Goron” yr un ystyr ag sydd iddo yn Atodlen 6.