RHAN 4SAFONAU
PENNOD 5SAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS
42Dyletswydd i wneud rhai safonau cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod unrhyw safon cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys i berson (P).
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â phob un o'r gweithgareddau a bennir yn Atodlen 9 (i'r graddau y mae safonau o'r fath wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)) yn benodol gymwys i P os yw P, ac i'r graddau y mae P, yn gwneud y gweithgareddau hynny.
(3)
Ond nid oes rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau yn darparu i safon cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 os yw, neu i'r graddau y mae—
(a)
adroddiad safonau o dan adran 64 yn nodi y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw, neu
(b)
Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.
(4)
Nid yw'r adran hon yn atal rheoliadau o dan adran 39 rhag darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau eraill yn benodol gymwys i P.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 9 drwy ychwanegu, hepgor neu ddiwygio cyfeiriad at weithgaredd.