RHAN 4SAFONAU

PENNOD 5SAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS

41Safonau gwahanol yn ymwneud ag ymddygiad penodol

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os bydd rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) yn pennu nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad penodol.

(2)

Caiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—

(a)

i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(b)

i ddwy safon neu ragor fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(c)

i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.