RHAN 4SAFONAU
PENNOD 5SAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS
39Safonau sy'n benodol gymwys
(1)
Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn benodol gymwys i berson (P) os yw Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon.
(2)
Caiff y rheoliadau ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i P drwy wneud darpariaeth sy'n cyfeirio—
(a)
at P yn benodol, neu
(b)
at grŵp o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.
(3)
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.