RHAN 4SAFONAU
PENNOD 4SAFONAU CYMWYSADWY
38Diwygio safonau cymwysadwy
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o'r canlynol—
(a)
safonau cyflenwi gwasanaethau;
(b)
safonau llunio polisi;
(c)
safonau gweithredu;
(d)
safonau cadw cofnodion.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o unrhyw un neu ragor o'r cofnodion canlynol yn y tabl yn cynnwys cyfeiriad at safonau hybu—
(a)
cofnod Gweinidogion Cymru;
(b)
cofnod cyngor bwrdeistref sirol;
(c)
cofnod cyngor sir;
(d)
cofnod awdurdod Parc Cenedlaethol;
(e)
cofnod unrhyw berson arall, ond dim ond os yw'r person wedi cydsynio y dylai safonau hybu fod yn gymwysadwy iddo.
(4)
At ddibenion is-adran (3)—
(a)
ystyr “cydsyniad” yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru;
(b)
caniateir i berson dynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny;
(c)
os yw person yn tynnu cydsyniad yn ôl ar ôl i gofnod y person hwnnw gael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at safonau hybu, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu'r cyfeiriad at safonau hybu yng nghofnod y person hwnnw.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (2) o gofnod sy'n ymwneud â pherson neu gategori o berson yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu gwasanaeth (y “gwasanaeth a bennir”), ond dim ond—
(a)
os yw'r amod yn is-adran (7) wedi ei fodloni, a
(b)
os yw'r amod yn is-adran (8) neu (9) wedi ei fodloni.
(7)
Rhaid i'r gwasanaeth a bennir ddod o fewn categori o wasanaeth a bennir yng ngholofn (3) o'r tabl yn Atodlen 7 (“gwasanaeth sydd ar gael”)
(8)
Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â pherson yn Atodlen 8, rhaid i'r person hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.
(9)
Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â chategori o bersonau yn Atodlen 8, rhaid i'r holl bersonau o fewn y categori hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.
(10)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).
(11)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (10), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad iddynt.