RHAN 4SAFONAU

PENNOD 4SAFONAU CYMWYSADWY

37Personau sy'n dod o fewn Atodlen 8

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 8.

(2)

Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno—

(a)

yn safon cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir (“safon neilltuedig cyflenwi gwasanaethau”), neu

(b)

yn safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion—

(i)

am safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau,

(ii)

am gwynion yn ymwneud â chydymffurfedd P â safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau, neu

(iii)

am gwynion mewn perthynas â'r Gymraeg sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir.

(3)

Yn yr adran hon, ystyr “gwasanaeth a bennir” yw gwasanaeth a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8.

(4)

Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.