Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

35Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;

  • ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 35 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)