RHAN 4SAFONAU
PENNOD 3PERSONAU SY'N AGORED I ORFOD CYDYMFFURFIO Å SAFONAU
I1I235Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—
a
at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu
b
at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—
a
at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu
b
at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.
5
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).
6
Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;
ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.