RHAN 4SAFONAU
PENNOD 2SAFONAU A PHENNU SAFONAU
Safonau gweithredu
30Safonau gweithredu
(1)
Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—
(a)
sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a
(b)
y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—
(i)
gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,
(ii)
gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu
(iii)
gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.
(2)
Yn yr adran hon—
(a)
ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—
(i)
swyddogaethau, neu
(ii)
busnes neu ymgymeriad arall;
(b)
mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—
(i)
arfer swyddogaethau, neu
(ii)
cynnal busnes neu ymgymeriad arall.