RHAN 4SAFONAU
PENNOD 2SAFONAU A PHENNU SAFONAU
Safonau llunio polisi
I2I129Safonau llunio polisi
1
Yn y Mesur hwn ystyr “safon llunio polisi” yw safon—
a
sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi, a
b
y bwriedir iddo sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o'r canlyniadau a ganlyn.
2
Y cyntaf o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl, (a ph'un ai yw'r effeithiau'n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael—
a
ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
b
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
3
Yr ail o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif—
a
ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
b
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
4
Y trydydd o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol—
a
ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
b
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
5
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.
6
Ystyr “penderfyniad polisi” yw penderfyniad gan berson—
a
ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau, neu
b
ynglŷn â chynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall.