RHAN 4SAFONAU
PENNOD 2SAFONAU A PHENNU SAFONAU
Pennu safonau
27Pennu safonau: darpariaeth atodol
(1)
Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—
(a)
cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu
(b)
cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.
(2)
Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.
(3)
Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—
(a)
un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu
(b)
nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
(4)
Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a)
llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;
(b)
gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;
(c)
casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;
(d)
gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;
(e)
trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;
(f)
gofynion adrodd.