RHAN 4SAFONAU
PENNOD 1DYLETSWYDD I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU
25Dyletswydd i gydymffurfio â safon
(1)
Rhaid i berson (P) gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â Phennod 2 os bodlonir, a thra bodlonir, yr amodau canlynol.
(2)
Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3).
(3)
Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4).
(4)
Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5).
(5)
Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P (gweler Pennod 6).
(6)
Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon (gweler Pennod 6).
(7)
Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).
(8)
Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r hysbysiad cydymffurfio a roddir i P.
(9)
Am ddarpariaeth—
(a)
ynglŷn â'r hawl i herio mewn cysylltiad â'r ddyletswydd i gydymffurfio â safonau, gweler Pennod 7;
(b)
ynglŷn ag ymchwiliadau ac adroddiadau safonau, gweler Pennod 8;
(c)
ynglŷn â materion cyffredinol, gweler Pennod 9.