RHAN 3PANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG
24Ymgynghori
(1)
Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.
(2)
Nid yw darpariaethau eraill y Mesur hwn sy'n darparu i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori yn cyfyngu ar is-adran (1).
(3)
Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ymgynghori â'r Panel Cynghori yn gyfeiriadau at ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu'r oll o aelodau'r Panel.