RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Datgelu gwybodaeth
22Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth
(1)
Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth y mae'r Comisiynydd wedi ei chael wrth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd onid awdurdodir y datgeliad gan is-adran (2).
(2)
Caiff y Comisiynydd ddatgelu'r wybodaeth—
(a)
at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd;
(b)
at ddibenion achos am dramgwydd o dyngu anudon yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni yn ystod ymchwiliad i orfodi safonau;
(c)
at ddibenion ymholiad gyda golwg ar gychwyn achos fel a grybwyllir ym mharagraff (b);
(d)
at ddibenion dyroddi tystysgrif o dan adran 107 (rhwystro a dirmygu);
(e)
os yw'r wybodaeth i'r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau a bod y datgeliad yn ddatgeliad i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd;
(f)
os gwybodaeth o'r math a grybwyllir yn is-adran (3) yw'r wybodaeth, ac os gwneir y datgeliad i'r Comisiynydd Gwybodaeth;
(g)
os gwneir y datgeliad i berson a ganiatawyd, a bod y Comisiynydd yn fodlon bod amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni;
(h)
os cafwyd yr wybodaeth gan y Comisiynydd dros 70 o flynyddoedd cyn dyddiad y datgelu, ac os datgeliad ydyw i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd.
(3)
Gwybodaeth yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f) yr ymddengys i'r Comisiynydd ei bod yn ymwneud—
(a)
â mater y gallai'r Comisiynydd Gwybodaeth arfer pŵer mewn perthynas ag ef ac a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4); neu
(b)
â chyflawni tramgwydd a grybwyllir yn is-adran (5).
(4)
Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) yw—
(a)
Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (gorfodi);
(b)
adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (argymhellion arfer); ac
(c)
Rhan 4 o'r Ddeddf honno (gorfodi).
(5)
Y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b) yw'r rhai—
(a)
o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Diogelu Data 1998 ac eithrio paragraff 12 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant); neu
(b)
o dan adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y tramgwydd o altro etc cofnodion gyda'r bwriad o atal datgelu).
(6)
At ddibenion is-adran (2)(g), mae amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni os yw'r datgeliad—
(a)
yn briodol at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r person a ganiatawyd gan y person hwnnw, a
(b)
er budd y cyhoedd.
(7)
Wrth ddyfarnu at ddibenion yr adran hon a yw datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd, rhaid i'r Comisiynydd ystyried buddiannau—
(a)
unrhyw berson y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef; a
(b)
unrhyw bersonau eraill sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
(8)
Nid yw'r adran hon yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r Comisiynydd.
(9)
Yn yr adran hon—
ystyr “person a ganiatawyd” (“permitted person”) yw—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
Prif Weinidog Cymru;
(c)
Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(d)
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(e)
Comisiynydd Plant Cymru;
(f)
y Comisiynydd Plant;
(g)
y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;
(h)
Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon;
(i)
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
(j)
ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun o dan adran 51 o Ddeddf Tai 1996;
(k)
cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
(l)
cyngor ar gyfer sir neu ddosbarth yn Lloegr;
(m)
cyngor ar gyfer un o fwrdeistrefi Llundain;
(n)
prif gwnstabl o'r heddlu ar gyfer ardal heddlu;
(o)
prif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain;
ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad a wneir gan y Comisiynydd o dan adran 71.
(10)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn ddiwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd” yn is-adran (9)—
(a)
drwy ychwanegu person;
(b)
drwy hepgor person;
(c)
drwy newid disgrifiad o berson.
(11)
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (10), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person o dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.